Nehemiah 3

Ailadeiladu'r Waliau

1Dyma Eliashif yr archoffeiriad a'i gyd-offeiriaid yn mynd ati i adeiladu Giât y Defaid
3:1 Giât y Defaid oedd y giât agosaf at y Deml
. Yna ei chysegru a gosod y drysau yn eu lle. Nhw wnaeth y gwaith hyd at Dŵr y Cant a Tŵr Chanan-el.
2Yna dynion Jericho wnaeth adeiladu'r darn nesaf, a Saccwr fab Imri y darn ar ôl hwnnw.

3Teulu Hassenâ wnaeth adeiladu Giât y Pysgod, a gosod ei thrawstiau a'r drysau, y bolltau a'r barrau yn eu lle. 4Meremoth fab Wreia ac ŵyr i Hacots wnaeth drwsio'r darn nesaf. Meshwlam fab Berecheia ac ŵyr i Meshesafel y darn wedyn. Sadoc fab Baana y darn ar ôl hwnnw, 5a dynion Tecoa
3:5 pentref oedd rhyw 12 milltir i'r de-ddwyrain o Jerwsalem
ar y darn nesaf wedyn. Ond doedd arweinwyr Tecoa ddim yn fodlon helpu gyda'r gwaith oedd yr arolygwyr wedi ei roi iddyn nhw.

6Ioiada fab Paseach a Meshwlam fab Besodeia oedd yn gweithio ar Giât Ieshana
3:6 Roedd tref Ieshana tua 15 milltir i'r gogledd o Jerwsalem.
. Nhw wnaeth osod y trawstiau a'r drysau, y bolltau a'r barrau yn eu lle.
7Yna roedd Melatia o Gibeon a Iadon o Meronoth yn gweithio ar y darn nesaf gyda dynion eraill o Gibeon a Mitspa (lle roedd llywodraethwr Traws-Ewffrates yn byw). 8Wedyn roedd Wssiel fab Charhaia (aelod o Urdd y Gofaint Aur) yn atgyweirio'r darn nesaf, a Chananeia (aelod o Urdd y Gwerthwyr Persawr) yn atgyweirio'r darn ar ôl hwnnw. Nhw wnaeth drwsio wal Jerwsalem yr holl ffordd at y Wal Lydan.

9Reffaia fab Hur, pennaeth hanner ardal Jerwsalem, oedd yn gweithio ar y darn nesaf. 10Iedaia fab Charwmaff ar y darn ar ôl hwnnw, gyferbyn â'i dŷ, a Chattwsh fab Chashafneia ar y darn wedyn. 11Roedd Malcîa fab Charîm a Chashwf fab Pachath-Moab yn gweithio ar ddarn arall ac ar Dŵr y Poptai. 12Yna roedd Shalwm fab Halochesh, pennaeth hanner arall ardal Jerwsalem, yn gweithio ar y darn nesaf, gyda'i ferched yn ei helpu.

13Chanŵn a pobl Sanoach
3:13 Sanoach Tref oedd 14 milltir i'r de-orllewin o Jerwsalem.
oedd yn gweithio ar Giât y Dyffryn. Nhw wnaeth ei hailadeiladu, a gosod ei drysau, ei bolltau a'i barrau yn eu lle. Nhw hefyd wnaeth y gwaith ar y wal yr holl ffordd at Giât y Sbwriel – 450 metr i gyd.

14Malcîa fab Rechab, pennaeth Ardal Beth-hacerem, oedd yn gweithio ar Giât y Sbwriel. Fe wnaeth ei hailadeiladu, a gosod y drysau, y bolltau a'r barrau yn eu lle.

15Wedyn Shalwn fab Colchose, pennaeth ardal Mitspa, oedd yn gweithio ar Giât y Ffynnon. Ailadeiladodd hi, rhoi to arni, a gosod y drysau, bolltau a barrau yn eu lle. A fe hefyd wnaeth ailadeiladu'r wal o Bwll Siloam (wrth ymyl y gerddi brenhinol) yr holl ffordd at y grisiau sy'n mynd i lawr o Ddinas Dafydd. 16Yna Nehemeia fab Asbwc, pennaeth hanner ardal Beth-tswr
3:16 Beth-tswr Tref oedd tua 15 milltir i'r de o Jerwsalem.
, oedd yn gweithio ar y darn nesaf, yr holl ffordd at fynwent Dafydd, y pwll artiffisial a barics y fyddin.

Lefiaid oedd yn gweithio ar y wal

17Lefiaid oedd yn gweithio ar y darnau nesaf – Rechwm fab Bani, ac wedyn Chashafeia, pennaeth hanner ardal Ceila
3:17 Ceila Tref tua 17 milltir i'r de-orllewin o Jerwsalem.
.
18Yna Lefiaid eraill – Binnŵi
3:18 Binnŵi fel rhai llawysgrifau Hebraeg, a'r fersiynau. Hebraeg, Bafai.
fab Chenadad, pennaeth hanner arall ardal Ceila.
19Ar ei ôl e, Eser fab Ieshŵa, pennaeth tref Mitspa, yn gweithio ar y darn gyferbyn â'r llethr i fyny at y storfa arfau lle mae'r bwtres. 20Wedyn Barŵch fab Sabbai yn gweithio ar y darn rhwng y bwtres a'r drws i dŷ Eliashif yr Archoffeiriad. 21A Meremoth fab Wreia ac ŵyr Hacots yn gweithio ar ddarn arall o ddrws tŷ Eliashif i dalcen y tŷ.

Offeiriaid oedd yn gweithio ar y wal

22Yr offeiriaid oedd yn gweithio ar y darn nesaf – dynion oedd yn byw yn y cylch. 23Wedyn Benjamin a Chashwf yn gweithio gyferbyn â'u tŷ nhw. Asareia fab Maaseia ac ŵyr Ananeia, yn gweithio wrth ymyl ei dŷ e. 24Binnŵi fab Chenadad yn gweithio ar y darn nesaf, o dŷ Asareia at y bwtres ar y gornel. 25Wedyn Palal fab Wsai yn gweithio gyferbyn â'r bwtres a'r tŵr sy'n sticio allan o'r palas uchaf wrth ymyl iard y gwarchodlu. Yna roedd Pedaia fab Parosh 26a gweision y deml oedd yn byw ar Fryn Offel yn gweithio ar y darn i fyny at Giât y Dŵr i'r dwyrain lle mae'r tŵr sy'n sticio allan. 27Wedyn dynion Tecoa eto yn gweithio ar y darn o'r tŵr mawr hwnnw i wal Bryn Offel.

28Offeiriaid oedd yn gweithio yr ochr uchaf i Giât y Ceffylau hefyd, pob un o flaen ei dŷ ei hun. 29Sadoc fab Immer yn gweithio gyferbyn â'i dŷ e, a Shemaia fab Shechaneia, porthor Giât y Dwyrain, yn gweithio ar y darn nesaf. 30Wedyn Chananeia fab Shelemeia a Chanŵn, chweched mab Salaff, yn gweithio ar ddarn arall. Yna, ar eu holau nhw, Meshwlam fab Berecheia yn gweithio ar y darn gyferbyn â'r ystafell lle roedd e'n byw. 31Wedyn Malcîa, un o'r gofaint aur, yn gweithio ar y darn hyd at lety gweision y deml a'r masnachwyr, gyferbyn â Giât y Mwstro, ac i fyny at yr ystafell uwchben y gornel. 32Yna roedd y gofaint aur a'r masnachwyr yn gweithio ar y darn olaf, o'r ystafell uwchben y gornel at Giât y Defaid.

Copyright information for CYM